Is-ddeddfwriaeth sydd ag Adroddiadau Clir

06 Ionawr 2020

SL(5)479 – Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

Cefndir a Diben

Cyhoeddir y Cod Ymarfer hwn (“y Cod”) o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (“y Ddeddf”). Mae'n berthnasol i bob math o Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio y mae person yn gyfrifol amdanynt.

Trafodwyd y Cod yn wreiddiol gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 30 Medi 2019. Oherwydd sawl gwall, cafodd ei dynnu’n ôl wedi hynny ar 2 Hydref 2019 a’i ail-osod ar 5 Rhagfyr 2019.

Roedd y Cod Ymarfer blaenorol yn adlewyrchu'r wyddoniaeth a'r ddeddfwriaeth gyfredol ar y pryd. Roedd angen adolygiad er mwyn nodi unrhyw newidiadau yn y meysydd hynny a sicrhau bod y safonau a argymhellwyd yn dal yn briodol. Mae hefyd yn disodli'r canllawiau dros dro ar gyfer ceidwaid ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol mewn perthynas â Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010, a gyhoeddwyd yn 2011.

Diben y Cod yw sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am anifail yn ymwybodol bod dyletswydd gyfreithiol arnynt i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod anghenion lles yn cael eu diwallu. Mae'r Cod Ymarfer yn esbonio'r hyn sydd angen i chi ei wneud i gyrraedd y safon o ran gofal sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Nid yw mynd yn groes i un o ddarpariaethau’r Cod yn drosedd ynddo'i hun ond, os dygir achos yn erbyn rhywun am drosedd lles o dan y Ddeddf, caiff y Llys ystyried i ba raddau y mae wedi cydymffurfio â'r Cod wrth benderfynu a yw wedi troseddu neu wedi cyrraedd y safon ofynnol o ran gofal.

Gweithdrefn

Negyddol.

Cyhoeddir y Cod Ymarfer o dan adran 14 o'r Ddeddf, sy'n caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi canllawiau ymarferol mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth o dan y Ddeddf. Trosglwyddwyd y pŵer i gyhoeddi canllawiau o'r Cynulliad i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn unol ag adran 16 o'r Ddeddf, mae’n rhaid cyhoeddi drafft o'r Cod, ymgynghori arno, ac ystyried unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad. Cymerwyd y camau hyn.

Mae darpariaeth drosiannol ym mharagraff 34 i Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru

2006 sy'n nodi pan fo swyddogaeth gyfatebol sy’n arferadwy gan Weinidog y Goron, bod y weithdrefn Seneddol berthnasol yn gymwys i unrhyw swyddogaeth a roddir i Weinidogion Cymru. Rhaid i Weinidog y Goron ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, a nodir yn adran 15 o'r Ddeddf, ac felly mae'r Cod yn cael ei osod gan ddefnyddio'r weithdrefn penderfyniad negyddol; caiff y Cynulliad benderfynu bod y Cod yn cael ei ddirymu heb fod yn hwyrach na 40 diwrnod ar ôl iddo gael ei osod.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 05 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym ar: 01 Mawrth 2020

 

 

SL(5)480 – Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Dodwy a Chywennod

Cefndir a Diben

Cyhoeddir y Cod hwn o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (“y Ddeddf”). Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r Cod presennol (a gyhoeddwyd yn 2002), yn ogystal â chynnal ymgynghoriad arno, rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Chwefror 2018.

Mae’r Cod hwn yn berthnasol i Gymru yn unig. Fe’i cyhoeddir gan Weinidogion Cymru a daw i rym ar 1 Mawrth 2020. Mae’n ymdrin â phob rhan o’r sector cynhyrchu ieir dodwy, gan gynnwys cywennod ac adar bridio, a phob math o systemau hwsmonaeth. Mae’n ymdrin ag ieir dodwy unigol neu luosog a gedwir ar dyddyn (haid hamdden/iard gefn), yn ogystal â chynhyrchwyr ieir dodwy masnachol.

Diben y Cod yw sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am anifail yn ymwybodol bod dyletswydd gyfreithiol arnynt i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ei anghenion lles yn cael eu diwallu, ac mae’n esbonio’r hyn y mae’n rhaid i’r unigolion hynny ei wneud i gyrraedd safon y gofal sy’n ofynnol o dan y gyfraith.

Gweithdrefn

Cyhoeddir y Cod Ymarfer o dan adran 14 o Ddeddf 2006, sy’n caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi canllawiau ymarferol mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth o dan y Ddeddf. Trosglwyddwyd y pŵer i gyhoeddi canllawiau o’r Cynulliad i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf 2006. Yn unol ag adran 16 o’r Ddeddf, mae’n rhaid cyhoeddi drafft o’r Cod, ymgynghori arno ac ystyried unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw. Cymerwyd y camau hyn.

Rhaid gosod fersiwn ddrafft o’r cod gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad, o fewn 40 diwrnod o osod y fersiwn ddrafft (ac eithrio unrhyw amser pan fydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu am fwy na 4 diwrnod neu yn ystod toriad sy’n hwy na 4 diwrnod), yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r cod drafft, yna rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyhoeddi’r cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod (ar ffurf y drafft) a daw’r cod i rym yn unol â’i ddarpariaethau. Y dyddiad a fwriadwyd yn yr achos hwn yw 1 Mawrth 2020.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 05 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym ar: 01 Mawrth 2020